Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Hydref 2023
Amser:
14.03 -
16.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13516
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Wayne Crocker, Mencap Cymru Dot Gallagher, Mencap Cymru Ben Cottam, Federation of Small Businesses (FSB) Trudy Davies, Woosnam & Davies News Steven Mc Gee, Unigolyn Janet Jones, Unigolyn |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Sesiwn dystiolaeth - Panel 1 - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steven McGee; Janet Jones; Dot Gallagher, Cadeirydd Mencap Môn; a Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru.
3 Sesiwn dystiolaeth - Panel 2 - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ben Cottam, Ffederasiwn y Busnesau Bach; a Trudy Davies, Woosnam & Davies News, Llanidloes.
4 Deisebau newydd
4.1 P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr
Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n dad i blentyn 3 oed a baban dau fis oed.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y llythyr a ddaeth i law gan Oxfam Cymru. Cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw at y materion a godwyd a cheisio rhagor o eglurder gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.
4.2 P-06-1363 Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghylch y ddeiseb i ofyn am yr amserlen ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad a materion eraill a godwyd gan yr Aelodau. Bydd hefyd yn trafod y ddeiseb eto unwaith y daw ymateb Llywodraeth Cymru i law.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ar y cyd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar blant sydd wedi bod mewn gofal.
Nododd yr Aelodau y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau i fonitro cynnydd ar y materion ehangach sy’n berthnasol i’r ddeiseb hon, felly cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r Pwyllgor.
5.2 P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys yn gofyn am arwyddion i gyfeirio ymwelwyr at y safle ac arwydd mwy amlwg wrth gyrraedd y safle.
5.3 P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebydd a Llywodraethwyr Cymru i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ym mis Tachwedd i roi tystiolaeth ar y materion penodol y maent yn eu hwynebu a'r datrysiadau y maent am eu cynnig.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.